|
|
|
Update on Student Teaching Placement Module in Physics at Swansea University What we believe is the first UAS-supported activity in Wales ran for the first time in 2011-12 when six third-year Physics students at Swansea University spent each Wednesday morning of our second Teaching Block working at one of three partner schools in Swansea as part of our new 10 credit module Teaching Physics via a School Placement.
We were very fortunate to have the expert help and commitment of three excellent teachers: Huw Davies at Bishop Vaughan Comprehensive, Danielle Blythe of Olchfa Comprehensive and Pete Lloyd of Ysgol Gyfun Gymraeg, Bryn Tawe. As the name implies, the last of these placements was in a Welsh medium school, where our students, who this year happened not to be fluent in Welsh, were still able to work with sixth-form pupils.
For each student the Teacher/Mentor provided invaluable guidance and encouragement. Written assessments at the course end were supportive: ... very confident and relates well to other people – he prepares well and is clearly passionate about his subject. I’d encourage him to learn to listen to and consider the advice of others a little bit more. He will make a very good teacher....Very willing to circulate among pupils and help them. He was attentive, patient and would give good and relevant feedback. Was quietly confident in dealings with pupils and staff, takes advice on board. We’re so grateful to our teacher colleagues for the time and effort they devoted to this project, and are pleased that all three are keen to continue into Year Two, when we have another six students ready to put a toe in the water.
Perhaps the best testimony to the success of the scheme is that two of the six successful pioneers are now enrolled on PGCE courses in the UK (two are still in the final year of an MPhy. degree). Another good outcome is that our colleagues in Computer Science have set up a similar scheme running in Teaching Block one, overseen by Professor Faron Moller - indeed, the positive impact on our students’ future employment prospects is recognised by the University, and the module is flagged as such in the HEAR transcript.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
In the autumn, Charlotte Eve Davies, Amanda Smith, PhD Biological Sciences students, and Tara Thrupp, an MSc by Research student, got the chance to attend the Marine Biological Association’s ‘Oceans of Potential’ Conference in Plymouth. Charlotte said “It was a great way for us to develop our communication and presentation skills as we all had posters on display. The conference also hosted an evening debate, open to the public , and chaired by celebrity guest Monty Halls (of ‘The Fisherman’s Apprentice fame), which had an amazing turn out – including local fishermen. One of the key points raised was something that I have worked on during my PhD – working with fishermen in research rather than against them, as seems to be the ‘trend’ at the moment.” |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
New Fully-funded Foundation Degree in Computer Science for private company employees In February 2013, the Department of Computer Science at Swansea University launched a new Foundation Degree in Computer Science, aimed at employees of private companies working or living in the convergence area of Wales.
The FD is accessible to students ‘in work’ and provides employees with substantial industry experience - particularly in the Software, IT Services and Telecoms sectors - the opportunity to frame this experience against appropriate academic perspectives. As such, it is a part-time programme incorporating a degree of work-based learning (WBL).
“I consider myself extremely fortunate to have been accepted onto the fully-funded Foundation Degree for Computer Science at Swansea University. I did not think I would ever get the chance to gain this much needed qualification while still working full time and supporting a family. The teaching has been straightforward and unobstructed, and the whole experience has been everything I'd hoped!”
Christian Perera - Digital Accessibility Centre, current Computer Science Foundation Degree student
For further information - please contact: Karen Birdsall - k.a.birdsall@swansea.ac.uk
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
In Del Val 1994, the class UC was introduced for efficiently representing knowledge as sets of boolean equations. A year later, in Schlipf et al 1995, another class SLUR of sets of boolean equations, solvable efficiently via certain simple methods, was introduced. Now, 18 years later, PhD Computer Science student, Matthew Gwynne, and supervisor, Dr Oliver Kullmann, have shown that these two independent approaches coincide, resulting in new perspectives and new ideas for solving such sets of equations.
Finding solutions to systems of boolean equations (the satisfiability [SAT] problem) is perhaps the most important problem in computer science. The Cray Mathematics Institute offers a $1 million prize to the person that can show these problems to be either solvable efficiently, or in general "difficult to solve" (the famous "P vs NP" problem).
In recognition of their contribution to research on satisfiability, Matthew and Oliver were awarded the best paper award at SOFSEM 2013, the International Conference on Current Trends in Theory and Practice of Computer Science. The hope is that through further work in this area, more and more currently intractable problems can be brought into the realm of practical SAT solving. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
"Nanohealth is really going to move medicine forward. There are huge challenges facing medicine, facing clinicians, facing hospitals - both in the UK and overseas." The Centre for NanoHealth is one of Swansea University's major research projects, and is a collaboration between our Colleges of Engineering, Science and Medicine. In this video, Professor Steve Wilks, Head of the College of Science and Co-Director of the Centre for NanoHealth along with Steve Conlan, explain what nanohealth is, and why it's so important. "Clinicians provide 'problems', which we try and solve with them. This includes things like looking at blood in microscopic detail, creating scaffolds for growing new tissues, and using optics and lasers for diagnoses." |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
C++11: The future is here We are honoured that Professor Bjarne Stroustrup, the designer of C++, will be giving a lecture at Swansea University on 17 April as part of the Department of Computer Science Distinguished Lecture Series. Bjarne Stroustrup designed and implemented C++. Over the last decade, C++ has become the most widely used language supporting object-oriented programming by making abstraction techniques affordable and manageable for mainstream projects. Using C++ as his tool, Stroustrup has pioneered the use of object-oriented and generic programming techniques in application areas where efficiency is a premium; examples include general systems programming, switching, simulation, graphics, user-interfaces, embedded systems, and scientific computation.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Diweddariad ar y Modiwl Lleoliad Dysgu Ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe Yn rhan o beth oedd, hyd y gwyddom ni, y gweithgarwch cyntaf yng Nghymru i gael ei gefnogi gan y Cynllun Llysgenhadon Israddedig, aeth chwe myfyriwr Ffiseg blwyddyn tri i ddysgu Ffiseg mewn ysgolion partner yn Abertawe bob bore Mercher yn ystod Bloc Dysgu Dau. Fe wnaed hyn yn rhan o'r modiwl 10 credyd newydd Dysgu Ffiseg trwy Leoliad mewn Ysgol.
Roeddem ni'n ffodus iawn i gael help arbenigol ac ymroddiad tri athro ardderchog: Huw Davies yn Ysgol Gyfun yr Esgob Vaughan, Danielle Blythe yn Ysgol yr Olchfa a Pete Lloyd yn Ysgol Gyfun Gymraeg, Bryn Tawe. Fel mae'r enw'n awgrymu, mae'r ysgol olaf yn ysgol gyfrwng Cymraeg, ond er nad yw'n myfyrwyr eleni'n rhugl yn y Gymraeg, roedd yn bosibl iddyn nhw weithio gyda disgyblion y chweched dosbarth beth bynnag.
Cafwyd cyfarwyddyd ac anogaeth werthfawr i bob un o'r myfyrwyr gan yr athro / mentor. Roedd yr asesiadau ysgrifenedig ar ddiwedd y cwrs yn gefnogol iawn: ... yn hyderus iawn, ac yn dda iawn gyda phobl eraill - mae'n paratoi'n dda ac yn amlwg yn teimlo'n angerddol am ei bwnc. Buaswn yn ei annog i ddysgu i wrando ar bobl eraill, ac i roi ychydig yn fwy o ystyriaeth i'w cyngor. Fe wnaiff athro da iawn... Parod iawn i symud ymhlith y disgyblion a'u helpu. Roedd e'n astud ac yn amyneddgar, gan roi adborth da a pherthnasol. Roedd yn dawel hyderus wrth ddelio â disgyblion a staff, ac yn barod i dderbyn cyngor. Rydym yn hynod ddiolchgar i'r athrawon am yr amser a'r egni a roddwyd ganddynt i'r prosiect hwn, ac yn falch iawn bod y tri ohonynt yn barod i barhau â'r prosiect i'r ail flwyddyn. Mae gyda ni chwe myfyriwr arall yn barod i roi cynnig arni!
Y dystiolaeth orau o lwyddiant y cynllun, efallai, yw bod dau o'r chwe myfyriwr arloesol bellach wedi cofrestru ar gyrsiau TAR yn y DU (mae dau arall ym mlwyddyn olaf eu gradd MPhy o hyd). Canlyniad da arall o'r prosiect yw bod ein cydweithwyr Cyfrifiadureg wedi sefydlu cynllun tebyg ym Mloc Dysgu Un, i'w oruchwylio gan yr Athro Faron Moller. Yn wir, mae'r Brifysgol yn cydnabod yr effaith gadarnhaol bosibl ar ragolygon cyflogaeth ein myfyrwyr yn y dyfodol, a nodir hynny ar y modiwl yn nhrawsgrifiad yr Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Yn yr hydref, cafodd Charlotte Eve Davies ac Amanda Smith, myfyrwyr PhD Gwyddorau Biolegol, a Tara Thrupp, myfyriwr MSc trwy Ymchwil, gyfle i fynychu Cynhadledd 'Cefnforoedd llawn Potensial' Cymdeithas Bioleg y Môr yn Plymouth. Dywedodd Charlotte, "Roedd yn ffordd wych i ni ddatblygu ein sgiliau cyfathrebu a chyflwyno, gan oedd gyda ni i gyd bosteri i'w harddangos. Yn ystod y gynhadledd, cafwyd dadl gyda'r hwyr hefyd, oedd yn agored i'r cyhoedd, dan gadeiryddiaeth Monty Halls (sy'n enwog o "The Fisherman's Apprentice"). Cafwyd cynulleidfa anhygoel, gan gynnwys pysgotwyr lleol. Un o'r pwyntiau allweddol a godwyd oedd rhywbeth yr ydw i wedi gweithio arno yn ystod fy PhD, sef gweithio gyda physgotwyr wrth wneud ymchwil yn hytrach na gweithio yn eu herbyn, fel sy'n arferol ar hyn o bryd, ymddengys." |
|
|
|
|
|
|
Yn ei rôl yn Llysgennad Myfyrwyr Abertawe Ymddiriedolaeth Adareg Prydain, aeth Cerian Thomas (myfyriwr MSc Bioleg Amgylcheddol, a graddedig BSc Sŵoleg) a 16 o fyfyrwyr i Warchodfa Natur Cynffig. Aeth y myfyrwyr, o Gymdeithas Ecoleg Gadwraethol yr Adran Biowyddoniaeth, i wylio Warden y Warchodfa, Heather Coates o Grŵp Modrwyo Gŵyr, a'i chyd-fodrwywyr wrth eu gwaith. Gosodon nhw dair rhwyd niwl mewn lleoliadau gwahanol ar y safle, ac wedyn fe wnaethon nhw fodrwyo, mesur, a phwyso adar, gan gofnodi'r wybodaeth i'w hanfon at yr Ymddiriedolaeth, cyn rhyddhau'r adar eto. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Gradd Sylfaen Cyfrifiadureg newydd, wedi'i hariannu'n llawn, ar gyfer staff cwmnïau preifat Ym mis Chwefror 2013, lansiodd yr Adran Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe Radd Sylfaen Cyfrifiadureg newydd, wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer staff cwmnïau preifat sy'n gweithio neu'n byw yn ardal gydgyfeirio Cymru.
Mae'r radd ar gael i fyfyrwyr 'mewn swydd', ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr sydd â phrofiad diwydiannol helaeth - yn arbennig yn y sectorau Meddalwedd, TG, a Thelathrebu - ystyried y profiad hwnnw o bersbectif academaidd perthnasol. Felly, mae'n rhaglen ran-amser sy'n ymgorffori elfen o ddysgu yn y gweithle.
"Dwi'n credu fy mod yn hynod o ffodus i gael fy nerbyn i'r Radd Sylfaen Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe. Doeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn yn cael y fath gyfle i ennill y cymhwyster pwysig hwn tra'r oeddwn yn gweithio llawn amser ac yn cynnal teulu. Mae'r addysgu wedi bod yn syml a chlir, ac mae'r holl brofiad wedi bod yn bopeth yr oeddwn wedi gobeithio amdano!"
Christian Perera - Canolfan Hygyrchedd Digidol, myfyriwr cyfredol ar y Radd Sylfaen mewn Cyfrifiadureg.
Am ragor o wybodaeth - cysylltwch â: Karen Birdsall - k.a.birdsall@abertawe.ac.uk
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cymdeithas Daearegwyr, Gr_p De Cymru Mae Grŵp De Cymru'r Gymdeithas Daearegwyr yn cwrdd yn rheolaidd yn y Coleg. Mae'r Grŵp yn dod â daearegwyr academaidd a proffesiynol at ei gilydd, yn ogystal ag aelodau'r cyhoedd sydd â diddordeb yn y pwnc, i hyrwyddo daeareg. Geraint Owen (Daearyddiaeth) yw Llywydd 2012-2014. Ym mis Tachwedd, cynhaliodd y Grŵp Ddarlith Goffa Douglas Basset gyntaf yn Abertawe. Roedd Douglas Basset â llaw mewn sefydlu'r Grŵp dros 50 blynedd yn ôl. Roedd ei weddw yn y gynulleidfa, a thraddodwyd y ddarlith, ar ddaearegwyr yng Nghymru, gan ei olynydd yn Geidwad Daeareg Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Michael Bassett. Ym mis Ionawr, traddododd Geraint Owen ddarlith ar "Afonydd trwy Amser Daearegol" i gynulleidfa o dros 50. Bydd y Grŵp yn cynnal ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Mawrth, i'w ddilyn gan ddarlith am echdoriad Tambura ym 1815 gan Jessica Kandlbauer o Brifysgol Bryste. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Dosbarth Meistr Cenedlaethol ar Ffiseg Gronynnau: 7 Mai 2013 Gwahoddir myfyrwyr Ffiseg Safon Uwch a'u hathrawon i'r Dosbarth Meistr hwn a drefnir gan Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe. Nid oes cost am y digwyddiad, a hwn yw'r unig ddigwyddiad o'i fath gaiff ei gynnal yng Nghymru eleni. Mae'r rhaglen yn cynnwys:
- darlith yn disgrifio hanfodion ffiseg gronynnau a'r Gwrthdarwr Hadron Mawr yn CERN
- cyflwyniad byr i'r system cyfrifiadur, ATLANTIS, a ddefnyddir yn CERN i ddadansoddi gwrthdrawiadau o ganfodydd ATLAS
- sesiwn ymarferol pan gaiff myfyrwyr gyfle i ddefnyddio'r meddalwedd hwn ac i ganfod digwyddiadau gyda gronynnau elfennol megis cwarciau, leptonau, bosonau W a Z, ac efallai hyd yn oed Boson Higgs!
- trafodaeth fer yn crynhoi'r hyn a ddysgwyd yn y sesiwn ymarferol, ac yn ateb y cwestiynau: sut wnaeth y Gwrthdarwr ddarganfod Boson Higgs, a phaham mae mor bwysig?
- cyflwyniad ar yr arbrawf ALPHA yn CERN, lle mae ffisegwyr Abertawe wedi llwyddo i ddal gwrth-hydrogen am y tro cyntaf.
Dim ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd, felly cysylltwch â Gill Stallard - g.stallard@abertawe.ac.uk - os oes gennych ddiddordeb. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Dosbarth Meistr Mathemateg Daeth dros 60 o fyfyrwyr Blwyddyn 9 o ysgolion lleol yn Sir Gaerfyrddin, Abertawe, a Chastell-nedd Port Talbot i Ddosbarthiadau Meistr y Sefydliad Brenhinol yn ystod y gaeaf. Cynlluniwyd y dosbarthiadau i helpu disgyblion ysgolion uwchradd i herio ac ymestyn eu gwybodaeth o gysyniadau mathemategol. Trefnir y Dosbarthiadau Meistr gan Sefydliad Gwyddorau Cyfrifiadurol a Mathemategol Cymru ar y cyd â Sefydliad Brenhinol Prydain Fawr, Prifysgol Fetropolitan Abertawe, a Phrifysgol Abertawe. Gwahoddwyd disgyblion Blwyddyn 9 lleol, sydd wedi dangos potensial yn y pwnc, i ddod i'r Dosbarthiadau Meistr. Y nod yw ysbrydoli ac annog pobl ifanc am gelf ac arfer Mathemateg, iddynt ddechrau cael hwyl ar y pwnc. Roedd pynciau eleni'n cynnwys Hud Cerddoriaeth, Cymhareb Aur, Perthnasedd Arbennig, y 4ydd Dimensiwn a'r Tu Hwnt, a phynciau mathemategol cyffrous eraill! Cynhaliwyd dau o'r chwe digwyddiad ar gampws Townhill Prifysgol Fetropolitan Abertawe, ar ddyddiau Sadwrn ar ddiwedd Ionawr a dechrau Chwefror. Cynhaliwyd gweddill y Dosbarthiadau Meistr ar ddyddiau Sadwrn rhwng 23 Chwefror a 16 Mawrth ym Mhrifysgol Abertawe. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Lansiodd Iolo Williams Lwybr Bioamrywiaeth Prifysgol Abertawe Ar 11 Mawrth 2013, daeth Iolo Williams, cyflwynydd rhaglenni bywyd gwyllt ar y teledu, i'r Brifysgol i lansio'r Llwybr Bioamrywiaeth. Mae'r llwybr yn crwydro trwy ystod o gynefinoedd ar y campws, gan gynnwys coetir, pwll, cors, a gardd ffurfiol (cewch weld y fideo yma: http://www.youtube.com/watch?v=zVBEkbxqLi0.
Crëwyd y llwybr mewn partneriaeth â Thîm Ymchwil Ecolegol Abertawe yn yr Adran Biowyddoniaeth, ac roedd y myfyrwyr yn helpu i lunio'r arwyddion gwybodaeth. Dywedodd Dr Dan Forman, "Rydym yn falch ein bod wedi gallu rhannu'n gwerthfawrogiad o'r byd naturiol o'n cwmpas gyda chymuned ehangach y Brifysgol ac ymwelwyr. Mae economi Cymru'n dibynnu'n drwm ar y gwasanaethau a'r cynnyrch y mae'r amgylchedd o'n cwmpas yn eu darparu, ac mae gyda ni i gyd rôl allweddol o ran diogelu'r dirwedd a'i bioamrywiaeth. Mae gan yr Adran Biowyddoniaeth ymrwymiad cryf i gyfathrebu'r neges hon, a dwi'n falch ein bod wedi cynnwys rhai o'n myfyrwyr israddedig yn y gwaith. Maen nhw wedi gadael etifeddiaeth barhaol i'r cenedlaethau o fyfyrwyr fydd yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe yn y dyfodol."
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Yn Del Val 1994, cyflwynwyd y dosbarthiad UC er mwyn cynrychioli gwybodaeth yn effeithlon fel setiau o hafaliadau Boole. Blwyddyn yn ddiweddarach, yn Schlipf et al 1995, cyflwynwyd dosbarthiad arall, sef SLUR, o setiau o hafaliadau Boole. Gellir datrys y rhain yn effeithlon trwy ddulliau syml penodol. Yn awr, 18 mlynedd yn ddiweddarach, mae myfyriwr PhD Cyfrifiadureg, Matthew Gwynne, a'i oruchwyliwr Dr Oliver Kullmann, wedi dangos bod y ddwy ymagwedd annibynnol hyn yn cyd-daro. O ganlyniad, ceir persbectifau a syniadau newydd ar gyfer datrys y fath setiau o hafaliadau.
Datrys systemau hafaliadau Boole (y broblem bodlonadwyedd [SAT]) yw, efallai, y broblem bwysicaf i gyfrifiadureg. Mae Sefydliad Mathemateg Cray yn cynnig gwobr o $1 miliwn i'r sawl a all ddangos bod y problemau hyn naill ai yn gallu cael eu datrys yn effeithlon, neu ynteu yn gyffredinol yn "anodd eu datrys" (y broblem "P vs NP" enwog).
I gydnabod eu cyfraniad i ymchwil ar fodlonadwyedd, rhoddwyd gwobr i Matthew ac Oliver yn SOFSEM 2013, sef y Gynhadledd Ryngwladol ar Dueddiadau Cyfredol yn Theori ac Arfer Cyfrifiadureg, am y papur gorau. Y gobaith yw, gyda mwy o waith yn y maes hwn, y bydd modd dod â nifer gynyddol o broblemau anhydrin o fewn ein gallu ymarferol o ran datrysiadau SAT. |
|
|
|
|
|
|
Ymddengys yn amlwg y dylai cyfrifiaduron helpu gofal iechyd gan ei wneud yn fwy effeithlon a diogel, ond methodd Rhaglen TG Cenedlaethol y DU, oedd â'r nod o foderneiddio darpariaeth TG y GIG, a rhoddwyd y gorau i'r cynllun ar ôl gwario ymhell dros £12bn. Mae gofal iechyd wedi dod yn broblem TG! I sicrhau trafodaeth fywiog, gan bontio'r bwlch rhwng clinigwyr blaenllaw a gwyddonwyr cyfrifiadureg blaenllaw, sefydlwyd cyfarfodydd Tully.
"Roeddwn wedi allfudo ar ôl y Cyfarfod Tully cyntaf, ond roedd mor dda y bu raid i mi hedfan yn ôl o UDA am yr ail un!" Yr Athro Tony Solomonides, Cyfarwyddwyr Gwybodeg Ymchwil, System Iechyd Prifysgol North Shore, Illinois, UDA. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
"Mae nanoiechyd yn mynd i yrru meddygaeth yn ei blaen o ddifrif. Mae heriau enfawr o'n blaenau ar gyfer meddygaeth, clinigwyr, ac ysbytai - yn y DU a thramor." Mae'r Ganolfan NanoIechyd yn un o brif brosiectau ymchwil Prifysgol Abertawe, ac mae'n seiliedig ar gydweithredu rhwng y Colegau Peirianneg, Gwyddoniaeth, a Meddygaeth. Yn y fideo hwn, mae'r Athro Steve Wilks, Pennaeth y Coleg Gwyddoniaeth a Chyd-gyfarwyddwr y Ganolfan NanoIechyd, gyda chymorth Steve Conlan, yn esbonio beth yw nanoiechyd a phaham ei fod mor bwysig. "Mae clinigwyr yn cyflwyno eu 'problemau', ac yr ydym yn ceisio gweithio gyda nhw i'w datrys. Mae hyn yn cynnwys gwneud pethau megis edrych ar waed mewn manylder microsgopig, creu sgaffaldau i dyfu meinwe newydd, a defnyddio offer optegol a laser mewn diagnoses." |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Podlediadau fideo i ddysgu gwaith maes daeareg Mae Geraint Owen a Kath Ficken (Daearyddiaeth), yn datblygu podlediadau fideo byr i bontio'r bwlch rhwng dysgu daeareg mewn darlithoedd a dehongli cyfresi cerrig yn y maes. Yr amcan yw gwneud gwell defnydd o amser gwaith maes ar gwrs penwythnos i astudio'r Hen Dywodfaen Coch yn Ne Penfro ar gyfer modiwl GEL201, Cofnod Daearegol Newid Hinsawdd. Mae'r modiwl yn orfodol i fyfyrwyr sy'n dilyn y cynllun gradd BSc Gwyddor Ffisegol y Ddaear, ac yn ddewisol i fyfyrwyr eraill. Darparwyd tri phodlediad i fyfyrwyr trwy Blackboard, sef Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Abertawe. Maent yn trafod dehongli'r Hen Dywodfaen Coch fel gwaddodion afon, nodweddion gorlifdiroedd Hen Dywodfaen Coch, a phriddoedd Hen Dywodfaen Coch. Gofynnir am sylwadau'r myfyrwyr ar ôl y cwrs gwaith maes, er mwyn gwella'r podlediadau. Ar ôl hynny, fe'u dosbarthir yn ehangach trwy YouTube, ac ychwanegir podlediadau eraill i'r gyfres. Ariannwyd y prosiect gan SAILS, Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Labordy Newydd i Astudio Symudiadau Anifeiliaid Ar ddechrau mis Mawrth, bydd gwaith yn cychwyn ar lawr gwaelod asgell ddwyreiniol Adeilad Wallace, diolch i grant hael o dan gynllun adnewyddu labordai'r Gymdeithas Frenhinol a Wolfson. Byd y gwaith yn creu labordy penodol ar gyfer dyfeisio, cynhyrchu, a phrofi tagiau anifeiliaid arloesol, yn ogystal ag adeiladu canolfan delweddu ar gyfer Labordy Symudiadau Anifeiliaid Abertawe. Bydd y ddau ddatblygiad yn gwella capasiti gwaith y Labordy'n sylweddol. Bydd y ganolfan delweddu'n unigryw yn y byd, a bydd yn defnyddio pŵer clwstwr cyfrifiadurol a meddalwedd dyfeisgar a ddatblygwyd yn y Brifysgol, ac a ddyluniwyd yn benodol i ddelio â data o'r tagiau, i ddangos gwybodaeth amlddimensiynol mewn ffyrdd arloesol ar sgrin enfawr. Trwy ryngweithio â'r sgrin, bydd defnyddwyr yn gallu prosesu arwyddion ymddygiad, gan nodi patrymau penodol a gwahaniaethau ymddygiad na fyddai, o bosibl, yn amlwg fel arall, ond sy'n cael eu cofnodi'n gywir gan y tagiau.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
cymdeithasol". Cliciwch yma i ddarllen ei erthygl yn y Guardian. C++11: Mae'r dyfodol wedi cyrraedd Mae'n anrhydedd i Brifysgol Abertawe y bydd yr Athro Bjarne Stroustruo, dylunydd C++, yn traddodi darlith ym Mhrifysgol Abertawe ar 17 Ebrill yn rhan o Gyfres Darlithoedd Disglair yr Adran Cyfrifiadureg. Bu i Bjarne Stroustrup ddylunio C++ a'i roi ar waith. Yn ystod y degawd diwethaf, mae defnydd C++ wedi tyfu. Erbyn hyn, C++ yw'r iaith rhaglennu a ddefnyddir yn bennaf i gefnogi rhaglennu sy'n seiliedig ar wrthrychau, trwy sicrhau bod technegau echdynnu'n fforddiadwy ac yn rheoladwy ar gyfer prosiectau prif ffrwd. Gan ddefnyddio C++, mae Stroustrup wedi arloesi o ran defnydd technegau rhaglennu ar sail gwrthrychau a rhaglennu generig mewn meysydd lle mae effeithlonrwydd yn un o'r prif ystyriaethau; mae enghreifftiau'n cynnwys rhaglennu system cyffredinol, switsio, efelychu, graffeg, rhyngwynebau defnyddwyr, systemau ymgorfforedig, a chyfrifiadura gwyddonol.
|
|
|
|
|
|
|
|