|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Students studying the Physical Earth Science degree scheme within Geography, which combines geology and physical geography, have been busy recently with geological fieldwork. They dodged the February storms to spend a weekend studying the spectacular geology of the North Pembrokeshire coast, with Newport as a base. Highlights included the pillow lavas of Strumble Head, sunset over the layered gabbro of St David’s Head, and the sedimentary structures of the Aberystwyth Grits turbidites.
They have also spent several afternoons in the field studying the geology of the resources obtained from the South Wales Coalfield, visiting the site of the Clyne Valley brick-pit and brickworks, and several sites in the Swansea Valley linked to copper smelting, tinplate works, limestone quarrying, coal mining and silica sandstone quarrying to make silica bricks at Penwyllt. Their third and final field class will take them to a working opencast coal site. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Swansea Science Summer School When? Science Summer Schools & Science Taster Days throughout 2014
Where? College of Science, Swansea University
Who? Year 10 and Year 12 pupils from Swansea and surrounding areas
The College of Science will be running a series of taster days and week-long schools in Biosciences, Computer Science, Geography, Mathematics and Physics between now and March 2015. This is following on from a smaller summer school scheme in 2013. We hope to host up to 200 pupils in Years 10 and 12 (aged between 14 and 17), and give them valuable, hands-on experience of carrying out real scientific experiments with academic staff in a research laboratory. We want to ‘bring science to life’, with workshops such as ‘Mathematics for jugglers’ and ‘Hunting for exoplanets’.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
New research project will help save UK forests, woods and trees Swansea University has won a share of a £7m funding pot which will develop research into improving the understanding of tree pests and pathogens, and associated plant biosecurity and help address threats to UK forests, woods and trees.
Swansea University’s research is one of seven new research projects to receive funding under the multi-disciplinary Tree Health and Plant Biosecurity Initiative (THAPBI) which will generate knowledge to tackle pests and diseases and to support the future health of the UK's woodlands, commercial forests and urban trees. The societal benefits of the UK’s trees are estimated at around £1.8 billion per year.
Swansea’s project, led by Professor Tariq Butt, receives £900K for its research into the Biological Pest Control of Insect Pests that Threaten Tree Health (BIPESCO). Professor Butt said “ We are delighted with the award of funding for our interdisciplinary project that will use botanicals and biocontrol with entomopathogenic fungi (EPF) to kill and control insect pests that pose a threat to UK trees. BIPESCO will develop these natural alternatives to conventional chemical pesticides, of which usage is being severely restricted.”
This research has attracted global media coverage.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
BookMark app to help locate books in Swansea University’s Library
A research project in the Department of Computer Science has been looking at ways of repurposing everyday physical objects digitally. As part of this, they appropriated the hundreds of thousands of barcodes that are already on books in Swansea University's Library and Information Centre to support low-cost, scalable indoor navigation.
Any barcode in the library is now a "signpost" to any other – their app lets you scan any book's code to get a detailed map from where you are right to the bookshelf holding the item you are looking for.
The app is available on Google Play:
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Two amigos’ South American CRYathlon challenge in aid of heart charity Steven Jones will embark on the CRYathlon challenge with support on the cycling leg from fellow alumnus, Tim Butt (BSc Geography and MSc Environmental Dynamics and Climate Change). The CRYathlon is made up of a coast to coast 1,000 mile cycle from Buenos Aires to Santiago, across the Pampas lowlands; a three peak hiking challenge over the Andes Mountain range; and a canoeing challenge covering over 1,000 miles of the Amazon River, from Iguitos in Peru to Manaus, the capital of the Amazonas. Tim Butt, aged 23, who suffered a near-fatal cardiac arrest last year said: “The South America Challenge marks the start of a series of challenge-based fundraising under the banner CRYathlon, through which we aim to raise a target of £15,000 to fund heart screening and medical research through CRY."
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Physics Professor elected to Council of the Learned Society of Wales Professor Mike Charlton of Swansea University has been elected to the Council of the Learned Society of Wales - the organisation which celebrates Welsh learning internationally and is a source of authoritative, scholarly and critical comment and advice on policy issues affecting Wales.
Professor Charlton who has been at the University for over 14 years is the head of Department of Physics, and also is Chair of Experimental Physics. He is part of a team of scientists from Swansea that are members of the ALPHA (Antihydrogen Laser Physics Apparatus) collaboration at CERN (the European Organisation for Nuclear Research).
The ALPHA experiment aims to compare hydrogen and antihydrogen, in order to study fundamental symmetries between matter and antimatter and to shed light on how the universe came about. The ALPHA collaboration has been able to create antihydrogen atoms, hold onto them for long periods of time, and perform first experiments measuring their spectral properties.
Professor Charlton said: “It is a great privilege to be elected to the Council of the Learned Society of Wales and I look forward to working with colleagues to help promote the role of the Society, and in particular its activities connected to science and its applications, both in Wales and beyond.”
View Professor Charlton describing his work here:
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Mae myfyrwyr sy'n astudio gradd Gwyddorau Ffisegol y Ddaear ym maes Daearyddiaeth, sy'n cyfuno daeareg a daearyddiaeth ffisegol, wedi bod yn brysur yn gwneud gwaith maes daearegol yn ddiweddar. Er mwyn osgoi'r stormydd ym mis Chwefror, aethon nhw am benwythnos i astudio daeareg odidog arfordir gogledd Sir Benfro, gyda'u pencadlys yn Nhrefdraeth. Roedd yr uchafbwyntiau'n cynnwys y lafa clustog ym Mhencaer, yr haul yn machlud dros y gabro haenog ym Mhenmaen Dewi, a strwythurau gwaddodol tyrbiditau Grutiau Aberystwyth.
Maen nhw hefyd wedi treulio sawl prynhawn yn y maes yn astudio daeareg adnoddau o feysydd glo'r de, gan ymweld â phwll briciau a gweithfeydd briciau Cwm Clun, a nifer o safleoedd yng Nghwm Tawe sy'n gysylltiedig â mwyndoddfeydd copr, gweithfeydd tun, chwareli calchfaen, pyllau glo a chwareli tywodfaen silica i wneud briciau silica ym Mhenwyllt. Ar gyfer trydydd dosbarth maes y myfyrwyr, sef y dosbarth maes olaf, byddan nhw'n ymweld â safle glo brig sy'n gweithio. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ysgol Haf Gwyddoniaeth Abertawe Pryd? Ysgolion Haf Gwyddoniaeth a Diwrnodau Blasu Gwyddoniaeth drwy gydol 2014
Ble? Coleg Gwyddoniaeth, Prifysgol Abertawe
Pwy? Disgyblion blwyddyn 10 a 12 o Abertawe a'r ardaloedd cyfagos
Bydd y Coleg Gwyddoniaeth yn cynnal cyfres o ddiwrnodau blasu ac ysgolion am wythnos yn ein Hadrannau Biowyddoniaeth, Cyfrifiadureg, Daearyddiaeth, Mathemateg, a Ffiseg rhwng nawr a mis Mawrth 2015. Mae hyn yn dilyn ymlaen o gynllun ysgol haf llai yn 2013. Rydym yn gobeithio y bydd hyd at 200 o ddisgyblion o flynyddoedd 10 a 12 (rhwng 14 ac 17 oed) yno, ac y byddwn yn rhoi profiad gwerthfawr ac ymarferol iddynt o gynnal arbrofion gwyddonol go iawn a addysgir gan staff academaidd mewn labordy ymchwil. Rydym am 'ddod â gwyddoniaeth yn fyw', gyda gweithdai fel 'Mathemateg i jyglwyr' a 'Hela planedau allheuol'.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Prosiect ymchwil newydd i helpu i achub coed gwledydd Prydain Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill cyfran o bot ariannu gwerth £7 miliwn a fydd yn datblygu ymchwil ar wella dealltwriaeth o blâu a phathogenau coed, a bioddiogelwch planhigion cysylltiedig, ac yn helpu i fynd i’r afael â bygythiadau i goedwigoedd, fforestydd a choed gwledydd Prydain.
Mae ymchwil Prifysgol Abertawe yn un o saith prosiect ymchwil newydd i gael nawdd dan y Fenter Iechyd Coed a Bioddiogelwch Planhigion aml-ddisgyblaethol a fydd yn creu gwybodaeth i fynd i’r afael â phlâu ac afiechydon ac i gefnogi iechyd coetiroedd, coedwigoedd masnachol a choed trefol gwledydd Prydain yn y dyfodol. Amcangyfrifir bod buddion cymdeithasol coed gwledydd Prydain yn werth tua £1.8 biliwn y flwyddyn.
Mae prosiect Abertawe, a arweinir gan yr Athro Tariq Butt, yn derbyn £900,000 ar gyfer ei ymchwil ar Reoli Plâu Biolegol ar gyfer Plâu Pryfed sy’n Bygwth Iechyd Coed. Meddai’r Athro Butt: "Mae’n bleser gennym dderbyn y nawdd ar gyfer ein prosiect rhyngddisgyblaethol a fydd yn defnyddio planhigion a bio-reoli gyda ffyngau entomopathogenig (EPF) i ladd a rheoli plâu pryfed sy’n fygythiad i goed gwledydd Prydain. Bydd BIPESCO yn datblygu’r plaladdwyr naturiol hyn sy’n ddewis amgen yn lle plaladdwyr cemegol confensiynol y mae eu defnydd yn cael ei gyfyngu'n sylweddol erbyn hyn.”
Mae'r ymchwil wedi cael sylw byd-eang yn y cyfryngau.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Dyfarnwyd grant ymchwil newydd mawr i Grŵp Rhewlifeg Abertawe, ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth a phartneriaid eraill, i astudio silffoedd iâ yr Antartig. Ym mis Chwefror, dyfarnodd Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol £750,000 i'r tîm, a bydd £500,000 o'r arian hwnnw'n dod i Abertawe. Yr Athro Adrian Luckman sy'n arwain y prosiect dros dair blynedd, gyda'i Gyd-ymchwilwyr Dr Bernd Kulessa a Dr Ian Rutt, tra bod Dr Suzanne Bevan wedi'i phenodi'n Swyddog Ymchwil yn ddiweddar. Bydd y prosiect, o'r enw “Impact of surface melt and ponding on ice shelf dynamics and stability” yn cynnwys gwaith maes geoffiseg, synhwyro o bell drwy loeren a modelu rhifiadol o silff iâ Larsen C i weld ymateb silffoedd iâ yn y gorffennol a'r dyfodol i gynhesu atmosfferig. Mae'r rhaglen yn cynnwys dau drip wyth wythnos i'r Antartig yn niwedd 2014 a 2015 sy'n cynnwys pump o ymchwilwyr o Abertawe ac Aberystwyth. Nod y prosiect yw canfod pa mor debygol yw silffoedd iâ yr Antartig o ddymchwel yn ystod y 200 mlynedd nesaf.
Llun gan Alison Cook |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ap BookMark yn helpu i ddod o hyd i lyfrau yn Llyfrgell Prifysgol Abertawe
Mae prosiect ymchwil yn yr Adran Gyfrifiadureg wedi bod yn edrych ar ffyrdd o roi ail bwrpas i wrthrychau ffisegol cyffredin yn ddigidol. Fel rhan o hyn, fe briodolon nhw'r cannoedd o filoedd o godau bar sydd eisoes ar lyfrau yng Nghanolfan Llyfrgell a Gwybodaeth Prifysgol Abertawe er mwyn cael ffordd lywio dan do sy'n isel o ran cost.
Mae unrhyw far cod yn y llyfrgell yn “arwydd cyfeirio” at un arall - mae'r ap yn eich galluogi i sganio codau llyfrau i gael map manwl o'ch lleoliad presennol i'r silff lyfrau sy'n cynnwys y gwrthrych rydych chi'n chwilio amdano.
Mae'r ap ar gael ar Google Play:
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Her CRYathlon: dau amigo yn Ne America i godi arian i elusen y galon Bydd Steven Jones yn mentro ar her CRYathlon gyda chefnogaeth cyn-fyfyriwr arall, Tim Butt (BSc Daearyddiaeth ac MSc Dynameg Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd), yn ystod y rhan beicio. Mae'r CRYathlon yn cynnwys beicio 1,000 o filltiroedd o arfordir i arfordir o Buenos Aires i Santiago, ar draws iseldiroedd Pampas; her ddringo tri chopa dros fynyddoedd yr Andes; a her canŵio dros 1,000 o filltiroedd ar hyd yr Amazon, o Iguitos ym Mheriw i Manaus, prifddinas Amazonas. Dywedodd Tim Butt, 23 oed, a ddioddefodd ataliad ar y galon y llynedd a oedd bron â'i ladd: “Mae'r her yn Ne America yn nodi cychwyn cyfres o heriau i godi arian o dan yr enw CRYathlon, a'n bwriad yw codi £15,000 i dalu am sgrinio calonnau a gwaith ymchwil meddygol drwy CRY.”
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Athro Ffiseg yn cael ei ethol i Gyngor Cymdeithas Ddysgedig Cymru Mae'r Athro Mike Charlton o Brifysgol Abertawe wedi cael ei ethol i Gyngor Cymdeithas Ddysgedig Cymru - y sefydliad sy'n dathlu dysgeidiaeth Cymru yn fyd-eang ac yn ffynhonnell o sylwadau beirniadol a chyngor awdurdodedig ac ysgolheigaidd ar faterion polisi sy'n effeithio ar Gymru.
Yr Athro Charlton, sydd wedi bod yn y Brifysgol ers dros 14 o flynyddoedd, yw pennaeth yr Adran Ffiseg, ac mae hefyd yn Gadeirydd Ffiseg Arbrofol. Mae'n rhan o dîm o wyddonwyr o Abertawe sy'n aelodau o ALPHA (Cyfarpar Ffiseg Laser Gwrth-hydrogen) yn CERN (y Sefydliad Ewropeaidd dros Ymchwil Niwclear).
Nod arbrawf ALPHA yw cymharu hydrogen a gwrth-hydrogen er mwyn astudio cymesureddau sylfaenol rhwng mater a gwrthfater ac i daflu goleuni ar sut y daeth y bydysawd i fodolaeth. Mae ALPHA wedi llwyddo i greu atomau gwrth-hydrogen, eu dal am gyfnodau hir o amser, a chynnal arbrofion cychwynnol i fesur eu priodweddau rhithiol.
Dywedodd yr Athro Charlton: “Mae'n anrhydedd fawr cael fy ethol i Gyngor Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr i hyrwyddo rôl y Gymdeithas, ac yn benodol ei gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth a defnydd ohoni, yng Nghymru a'r tu hwnt.”
I weld yr Athro Charlton yn disgrifio'i waith, ewch i:
|
|
|
|
|
|
|
|