|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
The College of Science's Department of Biosciences will host a major international symposium on biopesticides and innovative technologies and strategies for pest control in September.
The symposium will feature invited speakers from the USA, Canada, Europe, Africa, Middle East and Australia. It will not only be of interest to those involved in horticulture, forestry and agriculture, but will also be relevant to those working in many other departments and fields, such as engineering, chemistry, chemical ecology, dendrochronology, meteorology, robotics, and human and animal health.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Pothellau, chwys a dagrau' a 'Chymreictod' - gwobr gyntaf i Amy am y 'Cyflwyniad Gorau gan Fyfyriwr' yng Nghynhadledd y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Constructing and Deconstructing Self Bu Amy Jones, ymchwilydd PhD yn yr Adran Daearyddiaeth, yn cyflwyno ei hymchwil yn ddiweddar ar y thema 'How identity is negotiated on the Wales Coast Path' mewn digwyddiad yng Nghaerdydd ym mis Mai.
Mae ei hymchwil, a amlygodd ganfyddiadau o'r cerddwr fel 'cerddwr go iawn', wedi bod yn thema gyffredin yn ei gwaith, sy'n nodi sut mae cerddwyr yn eu gwahaniaethu eu hunain o'r bobl eraill maent yn cwrdd â nhw ar hyd arfordir Cymru.
Meddai Amy, "Mae wedi bod yn ddiddorol clywed sut mae cerddwyr yn teimlo eu bod yn dangos eu hymrwymiad i Gymru drwy gerdded, a'u bod wedi profi eu 'Cymreictod' drwy eu pothellau, eu chwys a'u dagrau wrth iddynt gerdded 900 milltiroedd o Lwybr Arfordir Cymru. Dwi wedi canfod bod defnyddio'r iaith Gymraeg ar yr Llwybr wedi bod yn ffordd hollbwysig i bobl bwysleisio eu hunaniaeth wrth gerdded." |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Dyfarnu Cymrodoriaeth Ymchwil Uwch y Gymdeithas Frenhinol/Ymddiriedolaeth Leverhulme i'r Athro Simon Hands Bydd yr Athro Hands o'r Adran Ffiseg, yn ymgymryd â phrosiect ymchwil "Offer rhifiadol ar gyfer ffiseg gritigol mewn damcaniaethau 3d am ffermionau".
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Bydd Adran y Biowyddorau y Coleg Gwyddoniaeth yn cynnal symposiwm rhyngwladol pwysig ar fioblaladdwyr a thechnolegau a strategaethau arloesol ar gyfer rheoli plâu ym mis Medi.
Bydd y symposiwm yn cynnwys siaradwyr gwadd o UDA, Canada, Ewrop, Affrica, y Dwyrain Canol ac Awstralia. Yn ogystal â bod o ddiddordeb i'r rhai sy'n ymwneud â garddwriaeth, coedwigaeth ac amaethyddiaeth, bydd yn apelio hefyd at arbenigwyr mewn adrannau a meysydd eraill megis peirianneg, cemeg, ecoleg gemegol, dendrocronoleg, meteoroleg, roboteg ac iechyd pobl ac anifeiliaid. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Yr Athro Neville Temperley yn dathlu ei ganmlwyddiant ar 4 Mawrth Bu'n Bennaeth Mathemateg Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe rhwng 1965 a 1982. Cyflwynodd y Gymdeithas Frenhinol Fedal Aur Rumford iddo am ei waith ar Algebra Temperley Lieb. Byddai'r gwaith hwn yn ategu gwaith arloesol Vaughan Jones ar algebra Neumann a damcaniaeth clymau.Yn ystod cyfnod tywyll iawn yn ein hanes, bu'n gweithio ar brosiect amddiffyn o'r pwys mwyaf, yn aelod o grŵp bach o'r gwyddonwyr mwyaf blaenllaw i weithio ar y prosiect hwn yn Aldermaston. Mae arnom ddyled fawr iddo ef a'i gydweithwyr. Diolch i'w hymdrechion, cafodd Prydain gyfle i fod yn y rheng flaen ar gyfer trafodaethau gwleidyddol, er enghraifft, aelodaeth o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig. Ef oedd ffisegwr mathemategol mwyaf blaenllaw Cymru am flynyddoedd maith ac mae'n ymfalchïo yn y ffaith bod ganddo rywfaint o waed Cymreig. Mae'n adnabyddus am ei ddynoliaeth a'i ysgolheictod mawr. Mae'n gyn ddisgybl Eton ac yn fab i gyn Athro Brenhinol Hanes yng Nghaergrawnt.
Ei fab, Julian Temperley, a greodd ateb Prydain i'r ddiod Ffrengeg, 'Calvados' (The Somerset Cider Brandy Company Limited). Mae'n dad-cu i Alice Temperley, y dylunydd ffasiwn a Matilda Temperley, y ffotograffydd. |
|
|
|
|
|
|
|