|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
On Thursday 15 October, the Royal Geographical Society visited the Department of Geography to encourage our students to become ambassadors for their discipline.
The Royal Geographical Society’s Geography Ambassador scheme harnesses the enthusiasm and passion of undergraduate, postgraduate and graduate Geographers in order to promote the benefits and relevance of the subject to school pupils, in the hope that they will take it past the compulsory stages, as well as supporting school Geography Departments.
Ambassadors use their own love for the subject to run fun and interactive sessions, and support events and fieldwork, showing not only what Geography is, but also what it can be if you take it to university level. |
|
|
|
|
|
|
Biosciences PhD student Andrew Lucas attended the Royal Entomological Society 2015 Symposium and Meeting at Trinity College, Dublin. The theme was insect ecosystem services and Andrew won second prize for best student poster. Andrew said “The theme fitted really well with my poster, which was on my PhD looking at how DNA metabarcoding can reveal pollen transport by hoverflies, and their role as potential pollinators. As adults, hoverflies feed only on nectar and pollen, and anyone with a garden will have them. However, they often get mistaken for bees or wasps, because hoverflies, which are completely harmless, mimic them as form of defence.”
“I was really pleased to win second prize for best student poster, and got a lot of interested comments. It was the first time I'd won anything like this, and was 100 Euros better off as a result! |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Mathematics Scholarships The Mathematics Department is offering Mathematics prizes/scholarships for students starting their university studies in September 2016. The prize will be awarded on the basis of a competitive two and a half hour examination to be taken on Wednesday,16 March 2016. Students should be able to sit the exam in their school or college, but are also welcome to sit it in Swansea.
Application forms and specimen papers are available here. For any queries please contact.
Congratulations to the 2015 scholars: Farn Shei, Olchfa School, Swansea; Laura Ladbrooke, Truro High School for Girls; Killian Kullar, Sheldon School, Chippenham.
We are also pleased to announce that the following Mathematics students received the following University Scholarships for 2015:
Excellence Scholarship (£3000 awarded to all students who achieve AAA at A-level or equivalent): Steven Edmunds, Tonyrefail Comprehensive School; Poppy Reffold, Rochester Grammar School; Philippa Rylands, Gwernyfed High School, Powys.
Merit Scholarship (£2000 awarded to all students who achieve AAB at A-level or equivalent): Elain Jenkins, Ysgol Y Creuddyn; Laura Labrooke, Truro High School for Girls; Sandro Moruzzi, Gower College Swansea; Morgan Sprules, Seevic College; Caleb Thomas, Merthyr Tydfil College. |
|
|
|
|
|
|
|
|
Dr Gianmassimo Tasinato receives mobility grant Dr Gianmassimo Tasinato, Department of Physics, has won a short-term mobility grant from the Mexican Academy of Sciences (MAS) to develop a project in conjunction with Drs Gustavo Niz and Javier Chagoya, working at the Physics Department, University of Guanajuato (Leon), Mexico.
The award covered the costs of a three week scientific visit to the Physics Department in Leon, Mexico, to work on a project on cosmology. The project aim was to study novel methods, based on strong coupling, to screen long range forces associated with fields that possibly source present day cosmic acceleration. Besides cosmology, the working group also explored the possibility to apply the findings to other fields of physics, as quantum field theory and condensed matter.
The MAS short-term Mobility Grants provide the opportunity for early career and established researchers based in the UK to establish and develop new collaborations with Mexican counterparts. The awards cover the costs towards subsistence, research and travel expenses. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
From 7-9 September, Swansea University hosted an International Biopesticides Symposium organised by Professor Tariq Butt, Department of Biosciences.
The symosium welcomed 195 delegates from 25 different countries which included Norway, USA, Germany, Egypt, Croatia and Brazil. The conference allowed organisations within the biopesticides and related industries to present and share their experiences and to consider new innovative technologies which could enhance biopesticide efficacy and competitiveness.
Professor Butt said: "The symposium and workshop have been a huge success. The talks were enlightening, business deals were done, new contacts made and consortia were developed.”
Image source: Phil Rees |
|
|
|
|
|
|
The College of Science organised an event to celebrate the fantastic achievement of the Athena SWAN Bronze Award received in November 2014. The Award recognises commitment to advancing women’s careers in science, technology, engineering, mathematics and medicine in higher education and research.
The event took place on 7 October 2015 on the Wallace first floor landing and was well attended by College staff who enjoyed food, drink and cakes to celebrate the occasion.
Dr Carole Llewellyn, the current CoS Chair for Athena SWAN, introduced the event and explained the principles of Athena SWAN and how to get involved. Professor Matt Jones, Head of College, spoke about the importance of Athena SWAN in the College and Professor Dave Clarke, the CoS Chair for the award winning bid, thanked the Athena SWAN team.
|
|
|
|
|
|
|
In October 2016 researchers from Swansea will be leading the hosting of the 12th International Seagrass Biology Workshop in North Wales. The hosting of this meeting of international seagrass experts is a collaboration with researchers at Cardiff University, Natural Resources Wales, Gwynedd Council and our newly formed charity Project Seagrass. We hope to have a range of participation from Swansea researchers and students and expect it to be a great success.
We have an absolute first class line up of plenary speakers and also some excellent interactive workshops planned. For those members of the department curious about seagrasses but unable or unlikely to attend a full conference we have day tickets available, so please come along.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Myfyriwr Mathemateg a seren rygbi! Ar hyn o bryd mae Josh Helps yn astudio ar gyfer gradd mewn Mathemateg a Gwyddor Chwaraeon yn yr Adran Fathemateg, ac mae’n datblygu ei yrfa rygbi gyda’r Scarlets ochr yn ochr â’i astudiaethau. Yn ddiweddar mae wedi derbyn contract datblygu gan y Scarlets ar gyfer y tymor newydd.
Cychwynnodd chwaraewr clo’r Scarlets ar ei yrfa rygbi gyda Chlwb Rygbi Arberth yn ddim ond saith oed, cyn cynrychioli Sir Benfro ac Ysgolion Caerfyrddin. Aeth ymlaen i gynrychioli’r Scarlets yn y timau o dan 16 ac o dan 18, cyn cael ei ddewis yn gapten Cymru o dan 16. Yn haf 2013, ar ôl helpu ei ranbarth i ddod yn Bencampwyr Rhanbarthol, gwnaed Josh yn gapten Cymru o dan 18. Arweiniodd y chwaraewr ail res ei wlad allan yn Ne Affrica yn ystod twrnamaint rhyngwladol yn erbyn Lloegr, Ffrainc a De Affrica, y wlad oedd yn eu croesawu.
Fel mae Josh yn dweud, "Mae pawb eisiau chwarae rygbi, ond mae angen addysg yn gefn i chi. Gallai unrhyw beth ddigwydd gydag anafiadau yn y gêm, neu os na lwyddwch chi yn eich gyrfa broffesiynol, felly mae angen rhywbeth arall wrth gefn. Bydd bwrsariaeth y Scarlets yn fy helpu gyda’r teithio yn ôl ac ymlaen i hyfforddi ac i’r Brifysgol, gydag offer, bwyd a chyflenwadau coleg – mae’r cyfan yn costio!” |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ddydd Iau 15 Hydref, bu’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol yn ymweld â’r Adran Ddaearyddiaeth i annog ein myfyrwyr i fynd ati i hyrwyddo eu disgyblaeth.
Mae cynllun Hyrwyddwyr Daearyddiaeth y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol yn harneisio brwdfrydedd ac angerdd Daearyddwyr israddedig, ôl-raddedig a graddedigion er mwyn hybu manteision a pherthnasedd y pwnc ymhlith disgyblion ysgol, yn y gobaith y byddant yn dal i’w astudio wedi’r cyfnod gorfodol, yn ogystal â chefnogi Adrannau Daearyddiaeth ysgolion.
Mae’r Hyrwyddwyr yn defnyddio’u cariad at y pwnc i gynnal sesiynau difyr, rhyngweithiol, a chefnogi digwyddiadau a gwaith maes, gan ddangos nid yn unig beth yw Daearyddiaeth, ond hefyd beth allai fod o’i astudio ar lefel prifysgol. |
|
|
|
|
|
|
Bu Andrew Lucas, myfyriwr PhD yn y Biowyddorau, yn bresennol yn Symposiwm a Chyfarfod y Gymdeithas Entomolegol Frenhinol 2015 yng Ngholeg y Drindod, Dulyn. Y thema oedd gwasanaethau ecosystemau pryfed, ac enillodd Andrew’r ail wobr am y poster gorau gan fyfyriwr. Meddai Andrew “Roedd y thema’n cydweddu’n berffaith â’m poster, oedd yn gysylltiedig â’m PhD, sy’n edrych ar sut gall metabarcodio DNA ddatgelu sut mae paill yn cael ei gludo gan bryfed hofran, a’u rôl nhw fel peillwyr posib. Ar ôl cyrraedd eu llawn dwf, dim ond neithdar a phaill mae pryfed hofran yn eu bwyta, ac fe’u gwelwch mewn unrhyw ardd. Fodd bynnag, mae pobl yn aml yn tybio trwy gamgymeriad mai gwenyn neu gacwn ydyn nhw, gan fod pryfed hofran, sy’n gwbl ddiniwed, yn eu dynwared er mwyn amddiffyn eu hunain.”
“Roeddwn i’n falch iawn o ennill yr ail wobr am y poster gorau gan fyfyriwr, ac fe ges i lawer o sylwadau’n mynegi diddordeb. Hwn oedd y tro cyntaf i mi ennill unrhyw beth o’r fath, ac roeddwn i 100 Ewro ar fy ennill o ganlyniad! |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ysgoloriaethau Mathemateg Mae’r Adran Fathemateg yn cynnig gwobrau/ysgoloriaethau Mathemateg i fyfyrwyr fydd yn cychwyn eu hastudiaethau yn y brifysgol ym mis Medi 2016. Dyfarnir y wobr ar sail arholiad cystadleuol 2 awr a hanner, fydd yn cael ei sefyll ddydd Mercher, 16 Mawrth 2016. Dylai myfyrwyr fedru sefyll yr arholiad yn eu hysgol neu eu coleg, ond mae croeso hefyd iddynt ei sefyll yn Abertawe.
Mae ffurflenni cais a phapurau enghreifftiol ar gael yma. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cysylltwch â ni.
Llongyfarchiadau i Ysgoloriaid 2015: Farn Shei, Ysgol yr Olchfa, Abertawe; Laura Ladbrooke, Ysgol Uwchradd y Merched, Truro; Killian Kullar, Ysgol Sheldon, Chippenham.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi hefyd bod y myfyrwyr Mathemateg hyn wedi derbyn yr Ysgoloriaethau canlynol gan y Brifysgol ar gyfer 2015:
Ysgoloriaeth Rhagoriaeth (£3000 a ddyfarnir i bob myfyriwr sy’n cyflawni AAA yn eu lefel-A neu gymhwyster cyfatebol): Steven Edmunds, Ysgol Gyfun Tonyrefail; Poppy Reffold, Ysgol Ramadeg Rochester; Philippa Rylands, Ysgol Uwchradd Gwernyfed, Powys.
Ysgoloriaeth Teilyngdod (£2000 a ddyfarnir i bob myfyriwr sy’n cyflawni AAB yn eu lefel-A neu gymhwyster cyfatebol): Elain Jenkins, Ysgol y Creuddyn; Laura Labrooke, Ysgol Uwchradd y Merched, Truro; Sandro Moruzzi, Coleg Gŵyr Abertawe; Morgan Sprules, Coleg Seevic; Caleb Thomas, Coleg Merthyr Tydfil. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Gwahoddodd y Brifysgol Dr Dan Forman, o Adran y Biowyddorau, i roi anerchiad, gyda thaith dywys yn dilyn, ar Fioamrywiaeth Twyni Crymlyn, fel rhan o ddiwrnod agored Campws y Bae i’r cyhoedd. Bu hwn yn ddewis poblogaidd iawn, gan i fwy nag 80 o unigolion ddod i glywed yr anerchiad, ac roedd 50 arall ar y daith dywys.
Mae Tîm Ymchwil Ecoleg Abertawe, gyda chefnogaeth y Tîm Cynaliadwyedd, hefyd wedi arwain dwy daith gerdded natur lwyddiannus i fyfyrwyr newydd y tymor yma. Bu dros 200 o unigolion yn ymuno â’r teithiau, ac yn cael cipolwg ar amrywiaeth bywyd ar gampws Singleton.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Mae tîm rhyngwladol o ymchwilwyr dan arweiniad y swolegydd, yr Athro Rory Wilson, wedi cynnal ymchwil sy’n datgelu technegau a ddefnyddir gan ysglyfaethwyr ac ysglyfaeth – gyda rhai canlyniadau sy’n peri syndod.
Mae’r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn eLife, yn edrych ar y ffactorau sy’n pennu canlyniadau’r rhyngweithio gan ysglyfaethwyr ac ysglyfaeth ymysg anifeiliaid gwyllt, a’r ffordd orau i’r ysglyfaethwyr a’r ysglyfaeth gynyddu eu cyfle i lwyddo.
Ffynhonnell y ddelwedd: www.thewave.co.uk |
|
|
|
|
|
|
Mae tîm o ymchwilwyr dan arweiniad Prifysgol Abertawe wedi cael hyd i gysylltiad uniongyrchol rhwng tymheredd dyfroedd ffiordydd yr Arctig a pha mor gyflym mae rhewlifoedd yn gollwng iâ i’r cefnfor.
Un o’r prif elfennau sy’n peri ansicrwydd wrth ragfynegi codiad lefel y môr mewn hinsawdd sy’n cynhesu yw cyflymdra bwrw talpiau o iâ, h.y. pa mor gyflym bydd rhewlifoedd sy’n arwain i’r môr yn gollwng iâ i’r cefnfor. Mae gwaith blaenorol wedi rhagdybio mai cyflymdra’r rhewlif sy’n rheoli sut mae’r iâ’n cael ei ollwng yn bennaf.
Fodd bynnag mae ymchwil newydd, a gyhoeddwyd yn Nature Communications, yn dangos mai tymheredd dŵr y môr mewn cysylltiad â’r rhewlif, mewn llawer o achosion, sy’n rheoli cyflymdra colli’r iâ. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Dr Gianmassimo Tasinato yn derbyn grant symudedd Mae Dr Gianmassimo Tasinato yn yr Adran Ffiseg wedi sicrhau grant symudedd tymor byr gan Academi’r Gwyddorau ym Mecsico (MAS) i ddatblygu prosiect mewn cydweithrediad â Dr Gustavo Niz a Dr Javier Chagoya, sy’n gweithio yn yr Adran Ffiseg, Prifysgol Guanajuato (Leon), Mecsico.
Roedd y dyfarniad yn talu am gostau ymweliad gwyddonol tair wythnos â’r Adran Ffiseg yn Leon, Mecsico, i weithio ar brosiect cosmoleg. Nod y prosiect oedd astudio dulliau newydd, a seiliwyd ar gyplu cryf, o sgrinio grymoedd pellgyrhaeddol sy’n gysylltiedig â meysydd a allai fod yn ffynhonnell ar gyfer cyflymiad cosmig yn ein dyddiau ni. Ochr yn ochr â chosmoleg, bu’r gweithgor hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o gymhwyso’r canfyddiadau i feysydd ffiseg eraill, megis damcaniaeth meysydd cwantwm a mater cywasgedig.
Mae Grantiau Symudedd tymor byr MAS yn gyfle i ymchwilwyr gyrfa gynnar ac ymchwilwyr sefydledig yn y Deyrnas Unedig sefydlu a datblygu trefniadau cydweithio newydd gyda chymheiriaid ym Mecsico. Mae’r dyfarniadau yn talu am gostau cynhaliaeth, ymchwil a chostau teithio. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
O 7-9 Medi, bu Prifysgol Abertawe yn cynnal Symposiwm Rhyngwladol ar Fioblaleiddiaid, a drefnwyd gan yr Athro Tariq Butt, Adran y Biowyddorau.
Croesawodd y symposiwm 195 o gynrychiolwyr o 25 gwlad wahanol, oedd yn cynnwys Norwy, UDA, yr Almaen, yr Aifft, Croasia a Brasil. Roedd y gynhadledd yn gyfle i sefydliadau yn y diwydiant bioblaleiddiaid a diwydiannau cysylltiedig gyflwyno a rhannu eu profiadau ac ystyried technolegau arloesol newydd a allai gynyddu effeithlonrwydd a chystadleurwydd yn y maes.
Meddai’r Athro Butt: "Mae’r symposiwm a’r gweithdy wedi bod yn llwyddiant aruthrol. Roedd y sgyrsiau yn ein goleuo, lluniwyd cytundebau busnes, crewyd cysylltiadau newydd, a datblygwyd consortia.”
Ffynhonnell y ddelwedd: Phil Rees |
|
|
|
|
|
|
Bu’r Coleg Gwyddoniaeth yn trefnu digwyddiad i ddathlu cyflawniad gwych Dyfarniad Efydd Athena SWAN, a dderbyniwyd ym mis Tachwedd 2014. Mae’r Wobr yn cydnabod ymrwymiad i hybu gyrfaoedd merched ym myd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth o ran addysg uwch ac ymchwil.
Cynhaliwyd y digwyddiad ar 7 Hydref 2015 ar landin llawr cyntaf Wallace ac roedd nifer dda o staff y Coleg yn bresennol. Buon nhw’n mwynhau bwyd, diod a theisennod i ddathlu’r achlysur.
Cyflwynydd y digwyddiad oedd Dr Carole Llewellyn, Cadeirydd Athena SWAN cyfredol y Coleg Gwyddoniaeth, a bu’n egluro egwyddorion Athena SWAN a sut mae bod yn rhan o’r cynllun. Bu’r Athro Matt Jones, Pennaeth y Coleg, yn sôn am bwysigrwydd Athena SWAN yn y Coleg, a diolchodd yr Athro Dave Clarke, Cadeirydd Coleg Gwyddoniaeth y cynnig arobryn, i dîm Athena SWAN. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|