|
|
Urdd Eisteddfod The College of Science was well represented in the GwyddonLe (Science Tent) at the Urdd Eisteddfod again this year with stands for Biosciences, Geography, Mathematics and Physics.
The Physics stand included the regular non-Newtonian fluid and Crookes’ tube experiments as well as a new display showcased this year which used a comb to break a laser beam connected to a speaker to make sound – perhaps this could be a new instrument for next year’s music competitions?! Liquid nitrogen shows were performed on the stage in the tent twice a day drawing a good crowd. Flowers were cracked, blu-tack nails were hammered into polystyrene and there was even a high temperature superconductor UFO flying back and forth along a magnetic track on the stage (kindly borrowed from the Materials Live group).
On the Mathematics stand there were a variety of activities for visitors to grapple with. Many enjoyed tackling the sudoku puzzles and trying to make cubes out of 6 given pieces - more difficult than it sounds as the edges of the pieces were not straight. A number of mathematical card tricks were also performed which visitors of all ages enjoyed.
The GwyddonLe is always a great opportunity to engage with the public and to inspire the next generation of scientists. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
All continents and countries are affected by human-wildlife conflict, but in Africa human-wildlife conflict is particularly prevalent. One of the most high-profile human-wildlife conflicts in Africa is the human-baboon conflict in the Cape Peninsula, South Africa. In search of high-energy human foods or waste, the baboons raid homes, businesses, cars, and even people themselves. Members of SHOAL in the Department of Biosciences travelled to Cape Town in March of this year to set up the latest instalment of their collaboration with the University of Cape Town researching baboon behaviour. The team, led by PhD student Gaëlle Fehlmann, has fitted eight male baboons (who are the worst raiders) with bespoke data-logging collars that provide high resolution GPS, accelerometer, gyroscope and magnetometer data. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Prime time for Plankton Modeller Dr Aditee Mitra, from the Department of Biosciences in the College of Science has been awarded a British Science Association Media Fellowship to work with the BBC Countryfile team.
Since 1987, the British Science Association (BSA) has awarded 10 fellowships annually to scientists. The aim of these fellowships is to enhance interactions between scientists and the media. This is the first time a researcher from the College of Science has been awarded this prestigious Fellowship.
Dr Mitra will be starting her 4-week placement with the BBC Countryfile in the last week of July under the aegis of Producer Matthew Gull who leads the Current Affairs team.
Dr Mitra will be reporting about her experiences on her Facebook page. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
As part of our commitment to enhancing student experience, we have recently made the following new academic appointments:
- Professor Carole Llewellyn, Chair, Biosciences
- Dr Philip Jones, Senior Lecturer, Human Geography
- Shengjun Zhu, Lecturer, Human Geography
- Dr Katherine Ficken, Lecturer, Physical Geography
- Dr Rhian Meara, Welsh Medium Lecturer, Geography
- Dr Aled Isaac, Welsh Medium Lecturer, Physics
- Professor Peter Dunstan, Chair, Physics
- Dr Gianmassimo Tasinato, Senior Lecturer, Particle Physics Theory, Physics
- Dr Ivonne Zavala, Lecturer, Particle Physics Theory, Physics
- Dr Randolf Pohl, Senior Lecturer, Atomic Molecular and Quantum Physics, Physics
- Dr O’Keefe, Lecturer, Atomic Molecular and Quantum Physics, Physics
|
|
|
|
|
|
|
The fifth annual RIVIC Graduate School was held 16-17 June 2014 in Swansea, setting a new record of 37 talks by students and researchers, with three keynote talks from Majid Mirmehdi (Bristol), Tim Weyrich (UCL) and Kurt Debattista (Warwick).
The event was arranged over two days with a wide range of talks in the topics of Vision, Graphics and Visualisation (Visual Computing).
The RIVIC Graduate School is an excellent opportunity for researchers across the RIVIC sites (Swansea, Aberystwyth, Bangor and Cardiff) to meet up, discuss research projects, seek ideas and solutions, collaborate and generally see the active and varied Visual Computing research ongoing across Wales. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Drwy fenter gan Claudio D'Onofrio (Peirianneg), Natascha Kljun (Daearyddiaeth), ac Anna Pigott (Daearyddiaeth, Tîm Cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe cyn hynny), mae’r Adran Ddaearyddiaeth a’r Coleg Peirianneg wedi rhoi 74 cyfrifiadur, 85 monitor, a llawer o ategolion cyfrifiadurol nad oeddent yn cael eu defnyddio, i elusen IT Schools Africa. Daeth hyn yn bosibl pan uwchraddiwyd dau labordy cyfrifiaduron myfyrwyr mawr gydag offer newydd.
Yr elusen IT Schools Africa sydd wedi ei gwneud yn bosibl defnyddio’r cyfrifiaduron hyn mewn ysgolion ym Malawi (Ysgol Uwchradd Chipasula yn Lilongwe) a Zambia, yn hytrach na diwedd eu hoes mewn tip.
Llun: Plant yn dweud diolch, Ysgol Chipasula, Lilongwe |
|
|
|
|
|
|
|
|
Ym mis Mehefin 2014, ymddangosodd Dr Dan Forman, arbenigwr sŵoleg yn yr Adran Biowyddorau, ar raglen BBC Countryfile,
Roedd y rhaglen yn trafod bywyd gwyllt Port Talbot, a bu Dr Forman yn siarad am frîd prin o garw ym Mharc Margam, sef Pere David.
Gwyliwch 53 munud i mewn i’r rhaglen. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Eisteddfod yr Urdd Roedd cynrychiolaeth dda gan y Coleg Gwyddoniaeth yn y GwyddonLe yn Eisteddfod yr Urdd unwaith eto eleni, gyda stondinau ar gyfer Biowyddorau, Daearyddiaeth, Mathemateg a Ffiseg.
Roedd y stondin Ffiseg yn cynnwys hylif an-Newtonaidd ac arbrofion tiwb Crookes yn ôl yr arfer, yn ogystal ag arddangosfa newydd a ddangoswyd eleni a oedd yn defnyddio crib i dorri paladr laser a oedd wedi’i gysylltu â seinydd er mwyn creu sain – efallai y byddai’n offeryn newydd ar gyfer y cystadlaethau llwyfan yn y dyfodol?! Cynhaliwyd sioeau nitrogen hylif ar y llwyfan yn y babell ddwywaith y dydd, gan ddenu tyrfa dda. Craciwyd blodau, hoeliwyd hoelion blu-tack i mewn i bolystyren ac roedd hyd yn oed UFO tra-dargludol tymheredd uchel yn hedfan yn ôl ac ymlaen ar hyd trac magnetig ar y llwyfan (wedi’i fenthyg gan y grŵp Deunyddiau Byw, gyda diolch).
Ar y llwyfan Mathemateg roedd amrywiaeth o weithgareddau i ddiddanu’r ymwelwyr. Cafwyd llawer o hwyl yn rhoi cynnig ar y pos sudoku, ac yn ceisio gwneud ciwbiau allan o chwech darn penodol – nid tasg hawdd, gan nad oedd ochrau’r darnau yn syth. Perfformiwyd nifer o driciau cardiau mathemategol hefyd, a oedd yn adloniant i ymwelwyr o bob oed.
Mae’r GwyddonLe yn lle gwych bob amser i ddenu sylw’r cyhoedd ac i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Y Coleg Gwyddoniaeth yn cipio pedair Cymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme Mae dwy o wyddonwyr benywaidd Coleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe wedi derbyn Uwch Gymrodoriaethau Ymchwil Ymddiriedolaeth Leverhulme y Gymdeithas Frenhinol, a hynny o blith saith a ddyfarnwyd eleni gan y Gymdeithas Frenhinol, sef academi wyddoniaeth y Deyrnas Unedig. Brwydrodd Yr Athro Tavi Murray, yr Adran Ddaearyddiaeth a Dr Sophie Schirmer, Athro Cyswllt yn yr Adran Ffiseg, mewn cystadleuaeth ffyrnig yn erbyn academyddion ar hyd a lled gwledydd Prydain.
Mae’r Coleg Gwyddoniaeth wedi bod yn rhyfeddol o lwyddiannus eleni, gan fod yr Athro Chris Allton a Dr Stefan Eriksson, y ddau o’r Adran Ffiseg, hefyd wedi cael Cymrodoriaethau Ymchwil Leverhulme.
Nod y cynllun cymrodoriaethau yw caniatáu i wyddonwyr wneud cynnydd mawr yn eu maes astudio drwy gynnal ymchwil amser llawn. Mae’r Athro Murray wedi cael ei chymrodoriaeth er mwyn ymchwilio i’r rhyngweithio rhwng iâ a chefnfor ar ymylon rhewlifoedd yn ne-ddwyrain yr Ynys Las, tra bod Dr Schirmer yn ymchwilio i batrymau newydd ar gyfer delweddu moleciwlaidd soniaredd magnetig drwy reolaeth cwantwm.
Bydd y Cymrodoriaethau yn caniatáu i’r Athro Allton ganolbwyntio ar ei ymchwil i’r modd y mae gronynnau hanfodol yn rhyngweithio o dan amodau eithafol, a bydd Dr Eriksson yn cynnal y mesuriad spectrosgopig laser cyntaf erioed o’r cyfwng ynni 1S - 2S mewn gwrth-hydrogen sydd wedi’i ddal yn y cyfarpar ALPHA yn CERN
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Mae gwrthdaro rhwng pobl a bywyd gwyllt yn effeithio ar bob cyfandir a phob gwlad, ond yn Affrica mae’r gwrthdaro rhwng pobl a bywyd gwyllt yn arbennig o amlwg. Un o’r enghreifftiau amlycaf o wrthdaro rhwng pobl a bywyd gwyllt yn Affrica yw’r gwrthdaro rhwng pobl a babŵns ym Mhenrhyn Cape, De Affrica. Wrth chwilio am wastraff neu fwyd pobl sy’n llawn egni, mae’r babŵns yn ysbeilio cartrefi, busnesau, ceir, a hyd yn oed pobl eu hunain. Ym mis Mawrth eleni, teithiodd aelodau o SHOAL yn yr Adran Biowyddorau i Cape Town er mwyn sefydlu’r cam diweddaraf yn eu gwaith cydweithredol gyda Phrifysgol Cape Town yn ymchwilio i ymddygiad babŵns. Mae’r tîm, dan arweiniad y myfyriwr PhD Gaëlle Fehlmann, wedi rhoi coleri cofnodi data pwrpasol ar wyth babŵn gwrywaidd (gwrywod yw’r gwaethaf). Bydd y coleri yn darparu data GPS cydraniad uchel, mesurydd cyflymu, geirosgop a magnetomedr. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Sylw ar y sgrin i Fodelwr Plancton Mae Dr Aditee Mitra, o’r Adran Biowyddorau yn y Coleg Gwyddoniaeth, wedi ennill Cymrodoriaeth Cyfryngau Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain er mwyn gweithio gyda thîm Countryfile y BBC.
Ers 1987, mae Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain (BSA) wedi dyfarnu deg cymrodoriaeth bob blwyddyn i wyddonwyr. Nod y cymrodoriaethau hyn yw gwella rhyngweithio rhwng gwyddonwyr a’r cyfryngau. Dyma’r tro cyntaf i ymchwilydd o’r Coleg Gwyddoniaeth ennill y Gymrodoriaeth fawreddog hon.
Bydd Dr Mitra yn cychwyn ar ei lleoliad pedair wythnos gyda BBC Countryfile yn wythnos olaf mis Gorffennaf, o dan awenau’r Cynhyrchydd Matthew Gull sy’n arwain y tîm Materion Cyfoes.
Bydd Dr Mitra yn adrodd am ei phrofiadau ar ei thudalen Facebook. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Fel rhan o’n hymrwymiad i wella profiad myfyrwyr, rydym wedi gwneud y penodiadau academaidd newydd canlynol yn ddiweddar:
- Yr Athro Carole Llewellyn, Cadeirydd, Biowyddorau
- Dr Philip Jones, Uwch Ddarlithydd, Daearyddiaeth Ddynol
- Shengjun Zhu, Darlithydd, Daearyddiaeth Ddynol
- Dr Katherine Ficken, Darlithydd, Daearyddiaeth Ffisegol
- Dr Rhian Meara, Darlithydd cyfrwng Cymraeg, Daearyddiaeth
- Dr Aled Isaac, Darlithydd cyfrwng Cymraeg, Ffiseg
- Yr Athro Peter Dunstan, Cadeirydd, Ffiseg
- Dr Gianmassimo Tasinato, Uwch Ddarlithydd, Theori Ffiseg Gronynnau, Ffiseg
- Dr Ivonne Zavala, Darlithydd, Theori Ffiseg Gronynnau, Ffiseg
- Dr Randolf Pohl, Uwch Ddarlithydd, Ffiseg Atomig Moleciwlaidd a Chwantwm, Ffiseg
- Dr O’Keefe, Darlithydd, Ffiseg Atomig Moleciwlaidd a Chwantwm, Ffiseg
|
|
|
|
|
|
|
Cynhaliwyd pumed Ysgol Graddedigion flynyddol RIVIC ar 16-17 Mehefin 2014 yn Abertawe, gan osod record newydd o 37 sgwrs gan fyfyrwyr ac ymchwilwyr, gyda thair sgwrs allweddol gan Majid Mirmehdi (Bryste), Tim Weyrich (UCL) a Kurt Debattista (Warwick).
Trefnwyd y digwyddiad dros ddau ddiwrnod gydag ystod eang o sgyrsiau ar bynciau Gwelediad, Graffeg a Delweddu (Cyfrifiadura Gweledol).
Mae Ysgol Graddedigion RIVIC yn gyfle ardderchog i ymchwilwyr ledled safleoedd RIVIC (Abertawe, Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd) gyfarfod, trafod prosiectau ymchwil, chwilio am syniadau ac atebion, cydweithio a chael cyfle cyffredinol i weld yr ymchwil weithgar ac amrywiol ym maes Cyfrifiadura Gweledol sy’n digwydd ledled Cymru. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|